Submit a form to Defra - hysbysiad preifatrwydd
Crëwyd ffurflen Feedback (do not amend or use) gan ddefnyddio'r gwasanaeth Submit a form to Defra. Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) sy'n berchen ar y gwasanaeth hwn ac yn ei weithredu.
Pwy sy'n casglu eich data personol
Y sefydliad a greodd ffurflen Feedback (do not amend or use) gan ddefnyddio Submit a form to Defra yw rheolydd y data personol a gesglir. Os yw'r rheolydd y tu allan i endid cyfreithiol Defra, yna Defra yw'r prosesydd.
Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd penodol ar gyfer ffurflen Feedback (do not amend or use).
Mae Defra hefyd yn casglu rhywfaint o ddata fel rheolydd. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio pa ddata personol y mae Defra yn eu casglu a'u prosesu fel rheolydd drwy ffurflenni a grëwyd gan ddefnyddio Submit a form to Defra.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am sut mae Defra yn defnyddio eich data personol, e-bostiwch defraforms@defra.gov.uk.
Os hoffech gael gwybodaeth a'ch hawliau cysylltiedig, gallwch e-bostio: data.protection@defra.gov.uk.
Mae swyddog diogelu data Defra yn gyfrifol am gadarnhau bod Defra yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Gallwch gysylltu â'r swyddog yn DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.
Data rydym yn eu casglu gennych a'r hyn rydym yn ei wneud gydag ef
Rydym yn defnyddio logiau system i gasglu gwybodaeth ynglŷn â'r ffordd y caiff ffurflenni eu defnyddio.
Rydym yn defnyddio'r logiau system i greu adroddiadau dienw am berfformiad ffurflenni sy'n defnyddio Submit a form to Defra. Rydym yn defnyddio'r data hyn i wella ffurflenni, er enghraifft, os byddwn yn darganfod nifer uchel o ffurflenni anghyflawn.
Os byddwch yn anfon adborth atom drwy e-bost am ffurflen sy'n defnyddio Submit a form to Defra, byddwn yn anfon eich cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth bersonol arall rydych yn dewis ei chynnwys yn eich e-bost at y rheolydd i'w hadolygu. Gall y rheolydd ddefnyddio eich data personol i ymateb i'ch ymholiad i ddiweddaru ffurflen yn seiliedig ar eich adborth lle bo'n briodol.
Cadw a dychwelyd at ffurflen
Gallwch arbed cynnydd eich ffurflen a dychwelyd o fewn 28 diwrnod. Pan fyddwch yn cadw eich cynnydd, mae angen i chi rannu'r wybodaeth ganlynol â ni:
- eich cyfeiriad e-bost
- y cwestiwn diogelwch yr hoffech ei ateb
- yr ateb i'r cwestiwn diogelwch
Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol
Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol yw eich cydsyniad.
Cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i'r ffurflen hon weithio. Darllenwch am y cwcis rydym yn eu defnyddio i wneud i'r ffurflen hon weithio.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data
Bydd Submit a form to Defra yn storio eich data am '9 months' ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau a 28 diwrnod os byddwch yn cadw ac yn gadael ac yn peidio â chyflwyno cais.
Caiff unrhyw adborth y byddwch yn ei roi ei storio am '9 months'.
Trosglwyddo eich data personol y tu allan i'r DU
Dim ond i wlad arall y tybir ei bod yn ddigonol at ddibenion diogelu data y byddwn yn trosglwyddo eich data personol.
Beth yw eich hawliau
Ar sail y prosesu cyfreithlon uchod, mae eich hawliau unigol fel a ganlyn:
- yr hawl i gael gwybod
- yr hawl i gael mynediad
- yr hawl i gywiro
- yr hawl i ddileu
- yr hawl i gyfyngu ar brosesu
- yr hawl i gludadwyedd data
- hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio
Cael rhagor o wybodaeth am eich hawliau unigol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.
Cwynion
Mae gennych yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar unrhyw adeg.
Siarter gwybodaeth bersonol
Mae ein siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio mwy am eich hawliau dros eich data personol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Medi 2025